Y Grŵp Trawsbleidiol ar Undod rhwng Cenedlaethau

14 Tachwedd 2022

Yn bresennol

Alistair Davey, Llywodraeth Cymru (AD)

Amanda Everson, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Gwirfoddol Ieuenctid (AE)

Andrew Pithouse, Llywodraeth Cymru (AP)

Delyth Jewell MS (DJ) – Cadeirydd

Rhys Jackson, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (RJ) – Ysgrifennydd dros Dro

Carol Maddock, Prifysgol Abertawe (CM)

Catrin Hedd Jones, Prifysgol Bangor (CHJ)

Ceri Cryer, Age Cymru (CC)

Chris Dunn, Diverse Cymru (CD)

Chris Thomas, COPA (CT)

Deb Morgan, CIA, Prifysgol Abertawe (DM)

Dereck Roberts, Confensiwn Cenedlaethol Pensiynwyr Cymru (DR)

Gethin Edwards, Llywodraeth Cymru (GE)

Elizabeth Jones, Prifysgol Abertawe (EJ)

Harriet Wright-Nicholas, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru (HWN)

Jacob Prowley, Age Cymru (JP)

Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol (JM)

Laraine Bruce, Connections in North Wales (LB)

Mirain Llwyd Roberts, Cyngor Gwynedd (MLR)

Phoebe Brown, Caffi Trwsio Cymru (PB)

Rachel Brown, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (RB)

Rosemary Squires, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru (RS)

Ruth Parness (RP)

Sharon Ford, Amgueddfa Cymru (SF)

Marie-Clare Hunter, Grŵp Cynghori ENRICH Cymru (MCH)

Tim Crahart, Shared Lives Plus (TC)

Tom Magner, Carers World Live (TM)

 

Ymddiheuriadau

 

Altaf Hussain AS

Carole Philips, Kidscape

David McKinney, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Jayne Bryant AS

Orla Tarn, NUS Cymru

Stephen Burke, United for all Ages

Sue Egersdorff, Ready Generations

 

 

 

 

 

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf

 

Derbyniodd y grŵp gofnodion y cyfarfod diwethaf.

 

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol – Enwebu Cadeirydd ac Ysgrifenyddiaeth

Enwebwyd DJ fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol gan RJ – cymeradwywyd hyn gan y Grŵp heb ddim gwrthwynebiadau. Cafodd JB, POG ac Altaf Hussain eu henwebu fel Is-gadeiryddion y Grŵp gan DJ – cymeradwywyd hyn gan y Grŵp heb ddim gwrthwynebiadau.

Enwebodd DJ Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fel ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol – cymeradwywyd hyn gan y Grŵp heb ddim gwrthwynebiadau.

Eiliodd CHJ bob un o’r enwebiadau.

 

Gwaith y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i hybu undod a dealltwriaeth rhwng cenedlaethau – Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Canmolodd JM bwyslais y Grŵp Trawsbleidiol ar bontio’r cenedlaethau. Dywedodd fod hyn yn gallu digwydd ar sawl ffurf a bod ganddo nifer o fuddiannau i leihau rhagfarn ar sail oedran yn ogystal â gwella iechyd. Dywedodd fod hyn yn bwysig yn sgil y cynnydd mewn costau byw a’r rhyfel yn Wcráin. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru’n gweithio i greu cymunedau cryf a chydnerth sy’n defnyddio cryfderau pobl a thynnodd sylw at Cysylltu Cymunedau, eu Strategaeth Unigrwydd ac Ynysigrwydd, a Chymru o Blaid Pobl Hŷn sydd wedi helpu i sbarduno hyn.

Fel rhan o strategaeth draws-lywodraethol Cysylltu Cymunedau, tynnodd JM sylw at gronfa unigrwydd ac ynysigrwydd tair blynedd i ariannu gweithgarwch cymunedol i wella galluogrwydd a chynaliadwyedd mudiadau llawr gwlad i â phobl o bob oed at ei gilydd. Dywedodd fod £1.5m wedi’u ddyrannu ledled Cymru rhwng 2021 a 2024 i alluogi Awdurdodau Lleol i weithio â Chynghorau Gwirfoddol Sirol i helpu mudiadau cymunedol. Dywedodd fod yr adroddiadau cychwynnol yn galonogol o ran sut mae’r arian wedi helpu. Bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn hir a bydd yn cael ei rannu â’r Grŵp Trawsbleidiol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod ystadegau Arolwg Cenedlaethol yn dangos fod cydlyniant cymunedol yn gwella. Wrth weithio â chydweithwyr yng Ngwynedd, dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi amlygu arferion da yn ystod yr Wythnos  Fyd-eang Pontio’r Cenedlaethau, a oedd yn dangos ymagwedd Gymreig tuag at gydlyniant cymunedol. Tynnodd sylw at enghreifftiau a oedd wedi’u casglu ar dudalen benodol ar wefan Llywodraeth Cymru sy’n gweithredu fel porth ar gyfer popeth sy’n ymwneud â phontio’r cenedlaethau yng Nghymru.

O ganlyniad i dynnu sylw at yr arferion da hyn, dywedodd JM fod Caffi Trwsio Cymru wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw mewn partneriaeth ag ysgolion lleol drwy sefydlu caffis trwsio yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Dywedodd fod y canolfannau hyn yn helpu am eu bod y llefydd lle gellir rhannu gwybodaeth ar hawliadau.

Dywedodd JM fod Llywodraeth Cymru’n gweithio â phartneriaid i feithrin cysylltiadau cryf a pharhaol rhwng y rhai sy’n ymwneud â phrosiectau pontio’r cenedlaethau a’r rhai a all elwa arnynt am eu bod yn awyddus i ymgorffori’r arferion gweithio hyn mewn cymunedau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod cyllid wedi’i ddarparu i sefydlu Cymunedau o Blaid Pobl Hŷn sydd wedi golygu bod modd cael swyddog arweiniol ym mhob Awdurdod Lleol. Tynnodd sylw hefyd at waith y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (CPHC), Age Cymru a phartneriaid yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a’r celfyddydau i gydweithio i fapio ystod y gweithgarwch pontio’r cenedlaethau i weld beth yw ei fuddiannau. Dywedodd y bydd rhagor o’r gweithgarwch hwn yn parhau i gael ei ymgorffori mewn cymunedau a bod hyn yn cael effaith ar ansawdd bywyd mewn cymunedau.

Cytunodd DJ fod prosiectau pontio’r cenedlaethau’n dod â llawenydd i bobl ac mai rhan bwysig o waith y Grŵp Trawsbleidiol yw dathlu dysgu drwy gysylltiadau.

Holodd CHJ y Dirprwy Weinidog ynglŷn â mapio gwaith pontio’r cenedlaethau a phwy sy’n arwain y gwaith. Dywedodd JM ei bod yn bwysig sicrhau bod unigolyn ym mhob awdurdod lleol sy’n gweithio â phobl hŷn, a bod gwaith wedi’i wneud â CPHC i gyflawni’r nod hwn. Dywedodd GE fod aelodau o Lywodraeth Cymru’n gweithio ar yr adroddiad a nododd bwysigrwydd grymuso swyddogion AFC i fynd allan a gweithio ar brosiectau potio’r cenedlaethau. Dywedodd CHJ y gallai Byrddau Iechyd helpu â’r gwaith hwn.

Holodd CHJ hefyd ynglŷn ag ymgorffori gwaith pontio’r cenedlaethau ar lefel genedlaethol, gan nodi’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar hyd a lled Cymru ond ei fod yn aml yn dameidiog. Dywedodd JM y bydd prosiectau mapio’n helpu â hyn.

Mewn ymateb i gwestiwn ar gysylltiadau â gwaith arall, dywedodd GE fod y dudalen ar y wefan yn ffynhonnell gweithgarwch pontio’r cenedlaethau, a gofynnodd i aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newyddion sydd ganddynt yn y dyfodol. Mae dolen i’r wefan yma. Gofynnodd DJ i aelodau gysylltu naill ai â hi neu RJ os oes rhywbeth a ddylid ei rannu drwy’r wefan neu os oes rhagor o syniadau ar gyfer gwaith pontio’r cenedlaethau y dylai Llywodraeth Cymru edrych arno.

Pwysleisiodd LB bwysigrwydd dilyn siwrneiau unigolion. Cytunodd JM, gan nodi fod ymdrech wedi’i gwneud i sicrhau bod y cyllid yn eang ei gwmpas o ran pwy sy’n cael eu helpu, a dywedodd mai dyma pam ei bod yn awyddus i gefnogi prosiectau llawr gwlad.

Holodd MCH am y posibilrwydd o godi cyfyngiadau oedran yr agenda dysgu gydol oes. Dywedodd JM y bydd hi a GE yn adrodd yn ôl ar hyn i Lywodraeth Cymru, gan nodi bod hwn yn fater i’r Gweinidog Cyflogaeth ac Addysg. Dywedodd GE y byddai’n croesawu rhagor o wybodaeth am hyn. Bydd MCH yn anfon unrhyw wybodaeth bellach ar ei chwestiwn at DJ a RJ.

Tynnodd TC sylw at lansiad y trydydd peilot Homeshare yng Nghymru, a gofynnodd i’r Dirprwy Weinidog a hoffai weld rhagor o’r modelau byw hyn sy’n pontio’r cenedlaethau. Dywedodd JM ei bod o blaid Homeshare, gan nodi ei hymddangosiad mewn lansiad blaenorol.

Diolchodd DJ i’r Dirprwy Weinidog a’i swyddogion am eu presenoldeb.

 

Diweddariad ar y gystadleuaeth ffotograffiaeth i fynd i’r afael â rhagfarn ar sail oedran – Catrin Hedd Jones

 

Cafwyd cefndir y gystadleuaeth ffotograffiaeth gan CHJ, pan lansiwyd hi yn ystod Wythnos Fyd-eang Pontio’r Cenedlaethau 2022. Tynnodd sylw at y gwaith mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ar faterion pontio’r cenedlaethau yn ogystal â’r gwaith arall sydd wedi’i wneud i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Roedd yn dadlau na fu llawer o fuddsoddiad mewn gwaith pontio’r cenedlaethau o’i gymharu â’r Alban.

Aeth CHJ ymlaen i dynnu sylw at ddigwyddiad yn y Senedd ar 15 Tachwedd a fydd yn cynnwys arddangosfa o ffotograffau o’r gystadleuaeth sydd â’r nod o hyrwyddo gwaith pontio’r cenedlaethau. Bydd yr arddangosfa wedyn yn mynd ar daith o amgylch amgueddfeydd cenedlaethol Cymru. Bydd CHJ yn rhannu’r lluniau a dyddiadau’r daith.

 

Unrhyw Fater Arall  

Atgoffwyd y grŵp gan TM i gysylltu ag ef os oes ganddynt unrhyw newyddion a fyddai’n addas ar gyfer Carers World Live. Gellir cysylltu â TM drwy anfon e-bost i news@carersworldlive.co.uk.

Tynnodd DM sylw at brosiect ymchwil pontio’r cenedlaethol sy’n edrych ar newid yn yr hinsawdd o safbwynt pontio’r cenedlaethau, gan ychwanegu y byddant yn gweithio mewn safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, ffermio gwledig, a chartrefi gofal arfordirol. Dywedodd y byddai’n hapus i sgwrsio â’r grŵp am y prosiect. Dywedodd DM y bydd yn rhannu mwy o wybodaeth am y gwaith cyn gynted ag y bydd ar gael.

Holodd CT am y Ganolfan Gwaith Pontio’r Cenedlaethau, gan ofyn pam nad oes gan Gymru un yn awr. Dywedodd CHJ ei bod wedi cael ei hariannu am dair blynedd a bod yr arian wedi dod i ben. Dywedodd fod llawer o wledydd eraill wedi gwneud cynnydd ac wedi cael cefnogaeth gan eu llywodraethau ond bod Cymru wedi bod yn canolbwyntio ar gynhyrchu adroddiadau a strategaethau.

Soniodd RB am brosiect o Brifysgol Stirling o’r enw Reimagining the Future in Older Age sydd wedi’i seilio ar syniadau heriol nad yw pobl hŷn yn cael cymaint o le yn y dyfodol. Mae pecyn cymorth ar arferion gorau mewn gwaith pontio’r cenedlaethau ar gael yma. Hefyd, mae adroddiad arall sy’n gwneud cysylltiad penodol rhwng cysyniadau pontio’r cenedlaethau ac oedran gyfeillgar mewn ecosystemau byw ar gael yma.

Gofynnodd DJ a hoffai’r grŵp ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i osod heriau pontio’r cenedlaethau a’r hyn yr hoffai weld Llywodraeth Cymru’n ei wneud. Roedd y grŵp yn hapus i edrych ar y syniad hwn. Gofynnodd DJ i’r grŵp a oedd rhywun a hoffai wneud y gwaith hwn, ac i gysylltu â hi drwy e-bost yn Delyth.Jewell@Senedd.Wales.